PET(4)-05-12 p8a

 

P-04-374 Pob ci fod o dan reolaeth tennyn mewn mannau cyhoeddus

 

Geiriad y ddeiseb:

O ganlyniad ir nifer cynyddol o berchnogion anghyfrifol syn caniatáu iw cŵn fynd yn agos at aelodaur cyhoedd, eu dychryn hwy, eu plant au hanifeiliaid anwes au peryglu hefyd tra nad ywr cŵn hynny ar dennyn mewn mannau cyhoeddus, cynigiaf y dylai fod yn gyfreithiol ofynnol i bob ci fod o dan reolaeth tennyn mewn mannau cyhoeddus neu fannau syn hygyrch ir cyhoedd, eu hanifeiliaid sydd ar dennyn au plant.

Prif ddeisebydd: Wyndham Mark Hopkins

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 28 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 17

Gwybodaeth ategol:Nid oes ond angen i chi ddarllen am bobl yn dioddef ymosodiadau gan gŵn i deimlo sut y dylair gyfraith newid er mwyn adlewyrchur modd mae perchnogion anghyfrifol syn poeni dim am bobl eraill, na phlant nac anifeiliaid anwes yn amharu ar fwynhad pobl a dinistrio bywydau. Efallai iddynt gredu bod eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel, tan fod eu ci Dalmataidd neu beth bynnag, yn neidio ar blentyn, ei wthio Ir llawr ac achosi niwed Iw benglog neu ymennydd o ganlyniad Ir gwymp, hyd yn oed os nad ywr ci wedi cnoi. Helpwch i ddiogelu plant a phobl. Mae cŵn syn rhedeg yn rhydd hefyd yn cael eu hanafu, eu bwrw Ir llawr neun dioddef ymosodiad gan dadau syn pryderu. Berchnogion anifeiliaid anwes, arwyddwch fy neiseb, maen rhaid mai dymar peth iawn iw wneud.